Mae amheuaeth o hyd am gost Gêmau Olympaidd 2012, yn ôl y swyddfa sy’n cadw llygad ar wario’r Llywodraeth.

Mae’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn dweud bod cost derfynol y gemau i dreth dalwyr ym Mhrydain yn dal i fod yn “ansicr”.

Eisoes, mae cost diogelwch y digwyddiad wedi cynyddu o £600miliwn i £757 miliwn ac, yn ôl y swyddfa, does dim sicrwydd y bydd yr arian sydd wrth gefn yn ddigon i dalu am risgiau annisgwyl eraill.

Eisiau esboniad

Maen nhw wedi galw ar y GOE – y corff sy’n arolygu’r gemau ar ran y Llywodraeth – i ddarparu cynlluniau’n dangos sut y bydd yn talu am unrhyw gostau eraill sydd heb eu cynnwys yn y pecyn arian wrth gefn.

“Mae peth cynnydd wedi bod gyda pharatoadau Gemau 2012,” meddai Amyas Morse, Pennaeth y Swyddfa Archwilio Genedlaethol.

Ond mae’n darogan hefyd y bydd yr holl adeiladau yn cael eu cwblhau mewn pryd.

Fe gafodd rhaglen fanwl y Gêmau ei chyhoeddi ddoe ac fe fydd y tocynnau’n mynd ar werth ymhen mis.