Seddi gwag yn ystod rhai cystadlaethau
Dylai trefnwyr y Gemau Olympaidd roi tocynnau ar gyfer lleoliadau sydd â seddi gwag i gefnogwyr, meddai Llafur heddiw.
Mae llefarydd Gemau Olympaidd y blaid, y Fonesig Tessa Jowell wedi galw ar y trefnwyr i weithredu ar frys yn dilyn cwynion bod rhesi o seddi gwag i’w gweld yn ystod rhai cystadlaethau.
Mae’r Fonesig Jowell wedi canmol yr Arglwydd Coe am gyhoeddi cynlluniau i wneud rhagor o seddi ar gael ar gyfer cefnogwyr sy’n gandryll ar ôl i swyddogion a noddwyr fethu â defnyddio eu tocynnau.
Dywedodd y Fonesig Jowell wrth BBC Radio 4: “Mae’n rhaid i ni gael pobl yn y seddi yna heddiw, fory, a’r diwrnod canlynol.”
Ychwanegodd y dylai’r Pwyllgor Rhyngwladol Olympaidd gydweithio efo Locog i ryddhau tocynnau ar gyfer cefnogwyr brwd sydd am weld y cystadlaethau.
Mae’r Aelod Seneddol Llafur Kate Hoey wedi galw ar y trefnwyr i roi’r tocynnau i blant ifanc o glybiau chwaraeon na fyddai fel arall yn cael y cyfle i fynd i’r Gemau.