Boris Johnson
Mae Boris Johnson wedi wfftio awgrymiadau bod seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd yn rhy “adain chwith”.

Dywedodd Maer Llundain bod y seremoni a wylwyd gan tua biliwn o bobol yn fyd eang yn fuddugoliaeth i’r Deyrnas Unedig.

“Rwy’n falch nad oedd yn ddarlun ystrydebol,” meddai. “Roedd yn fwy na Big Ben a Beefeaters a bysys coch. Roedd yn dweud y gwir am hanes y wlad yma dros y ddau neu dri chan mlynedd diwethaf mewn modd bywiog iawn.

“Mae’r rheini sy’n honni ei fod yn adain chwith yn siarad rwtsh. Rydw i’n Geidwadwyr ac roeddwn i’n crio â balchder gwladgarol o’r dechrau. Ro’n i’n crio fel Andy Murray.

“Y pryder mawr oedd gen i oedd gwneud rhywbeth cystal â Beijing. Ond rydw i’n meddwl bod ein seremoni ni yn llawer gwell.

“Roeddwn i wrth fy modd ag ymddangosiad y proletariat dinesig a thwf y simneiau a chreu’r cylchoedd Olympaidd.

“Roedd y darnau doniol â Mr Bean a James Bond hefyd yn wych.”

Roedd Boris Johnson yn ymateb i sylwadau Aelod Seneddol Ceidwadol arall, Aidan Burley, oedd wedi wfftio’r seremoni gan ei alw’n ‘sothach amlddiwylliannol’.