Mary Tamm fel Romana
Mae’r actores Mary Tamm, wnaeth chwarae rhan Romana, cydymaith Doctor Who, oedd yn cael ei chwarae gan Tom Baker ar y pryd, wedi marw yn 62 oed.

Mi roedd hi wedi bod yn brwydro canser ers 18 mis.

Mi gafodd yrfa hir fel actores yn y theatr ac ar y sgrin, gan gynnwys rhannau yn The Odessa File, The Likely Lads a Brookside. Ymddangosodd am y tro olaf ar y sgrin fach yn y gyfres EastEnders yn 2009.

Bu farw Elisabeth Skaden oedd yn chwarae rhan Sara Jane Smith yn Doctor Who y llynedd a bu farw’r actores Angharad Rees hefyd o ganser yr wythnos diwethaf.

Dywedodd Tom Baker ei fod yn drist iawn wrth glywed am farwolaeth Mary Tamm. “Roedd yn gwmni annwyl, yn ffraeth iawn a charedig,” meddai.