Fe fydd y cymhorthdal y mae trethdalwyr yn ei dalu tuag at dyrbinau gwynt ar y tir yn gostwng 10%, cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan heddiw.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Ynni, Ed Davey, y bydd yr arian sy’n cael ei fuddsoddi mewn annog adeiladu ffermydd gwynt yn gostwng rhwng 2013 a 2017.

Roedd y cwymp mewn cymhorthdal yn llai nag yr oedd nifer o ymgyrchwyr amgylcheddol wedi ei ofni.

“Bydd ynddi adnewyddadwy yn hybu economi Prydain, gan greu twf a chynnal swyddi ledled y wlad,” meddai Ed Davey.

Dywedodd wrth raglen Today Radio 4 fod y toriadau yn rhai “bach iawn”.

“Does neb yn y glymblaid yma eisiau rhoi gormod o gymhorthdal tuag at un diwydiant.”

Er gwaetha’r pwyslais ar ynni adnewyddadwy dywedodd yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd eu bod nhw’n disgwyl y bydd dibyniaeth y Deyrnas Unedig ar danwydd ffosil yn parhau am ddegawdau i ddod.

Fe fydd nwy yn chwarae rhan allweddol wrth gwrdd â gofynion ynni’r wlad, “os yw’n parhau yn weddol rad”.