Ed Miliband
Mae arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband wedi galw am atal cwmni G4S rhag cael rhagor o gytundebau gan y Llywodraeth nes bod adolygiad wedi cael ei gynnal i’r helynt ynglŷn â darparu swyddogion diogelwch ar gyfer y Gemau Olympaidd.

Fe fydd Ed Miliband yn defnyddio araith bore ma i fynnu nad oes rhagor o arian cyhoeddus yn cael ei roi i’r cwmni yn sgil eu methiant i ddarparu digon o swyddogion diogelwch ar gyfer y Gemau yn Llundain.

Mae disgwyl iddo hefyd alw ar y Llywodraeth Glymblaid i atal cynlluniau i gael cwmnïau yn y sector preifat i fod yn gysylltiedig â gwasanaethau’r heddlu, gan rybuddio y bydd yn tanseilio’r heddluoedd.