Bob Diamond yn rhoi tystiolaeth i ASau
Mae cyn-bennaeth banc Barclays Bob Diamond wedi bod yn rhoi tystiolaeth i bwyllgor o Aelodau Seneddol yn dilyn yr helynt cyfraddau llog.
Wrth gael ei holi gan bwyllgor y Trysorlys, fe gyfaddefodd Bob Diamond bod “camgymeriadau wedi cael eu gwneud ac yn amlwg roedd ’na ymddygiad a oedd yn gwbl annerbyniol.”
Dywedodd hefyd nad oedd wedi bod yn ymwybodol o’r hyn oedd wedi bod yn digwydd tan y mis yma.
Dywedodd bod Barclays wedi gostwng cyfraddau llog allweddol oherwydd pryderon bod y Llywodraeth am wladoli’r banc yn ystod yr argyfwng ariannol.
Yn ôl Bob Diamond roedd dirprwy lywodraethwr Banc Lloegr, Paul Tucker, wedi sôn wrtho fod ’na bryderon ymhlith swyddogion y Llywodraeth bod cyfradd Libor Barclays yn rhy uchel – ac y gallai hynny fod yn arwydd fod y banc yn fregus.
Roedd y sgwrs rhwng Bob Diamond a Paul Tucker wedi digwydd ychydig cyn i’r banc sicrhau arian ychwanegol gan Abu Dhabi ar 31 Hydref.
Dywedodd ei fod, dros y penwythnos, wedi bod yn benderfynol o aros yn bennaeth ar y banc – “ond erbyn dydd Llun roedd yn amlwg i mi nad oedd y gefnogaeth mor gref a bod yn rhaid i mi gymryd y cam yma,” meddai.
Fe awgrymodd Bob Diamond bod yntau a’r banc wedi bod yn ddioddefwyr “cyfres anffodus o ddigwyddiadau” a bod ’na broblemau wedi bod mewn banciau eraill.