Fe fu na ymddiswyddiad arall yn Barclays heddiw wrth i brif swyddog gweithredu’r banc ddilyn y prif weithredwr Bob Diamond drwy’r drws.
Roedd Jerry del Missier wedi gweithio gyda Bob Diamond yn adran fuddsoddi’r banc, Barclays Capital, rhwng 2005 a 2008.
Mae’r ddau wedi ymddiswyddo yn dilyn yr helynt am ddylanwadu ar gyfradd llog allweddol,
Roedd Barclays wedi cael dirwy o £290 miliwn wythnos ddiwethaf am geisio dylanwadu ar y gyfradd llog mae banciau’n ei ddefnyddio ar gyfer benthyciadau i fanciau eraill.
Fe fydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio ddydd Iau i benderfynu a ddylid cynnal ymchwiliad tebyg i Ymchwiliad Leveson i’r diwydiant bancio.
Fe fydd Tŷ’r Cyffredin yn cael cyfle i bleidleisio o blaid cynllun David Cameron i gael pwyllgor o Aelodau Seneddol i gynnal ymchwiliad neu gynnal ymchwiliad barnwrol, yn unol â galwadau arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband.