William Hague
Mae’r Ysgrifennydd Tramor, William Hague wedi galw prif ddiplomydd Syria yn Llundain i ddod i gyfarfod yn y Swyddfa Dramor yfory er mwyn cael ymateb y llywodraeth i’r gyflafan yn ardal Houla yn Syria ble cafodd o leiaf 90 o bobl eu lladd, gan gynnwys 32 o blant dan 10 oed.

Mae llywodraeth Syria wedi beio ‘gangiau o derfysgwyr arfog’ am yr hyn ddigwyddodd pan laddwyd trigolion Houla yng ngogledd orllewin Syria, gan ymosodiadau gan fyddin y llywodraeth dydd Gwener yn dilyn protestio yno.

Dywed llygad dystion bod y milwyr o garfan y shabiba wedi rhuthro i mewn i’r pentrefi gan saethu dynion yn y strydoedd a thrywanu merched a phlant yn eu cartrefi.

Dyweddd Mr Hague mewn neges drydar y bydd y diplomydd yn cyfarfod cyfarwyddwr gwleidyddol y Swyddfa Dramor, Sir Geoffrey Adams, fydd yn gwneud beirniadaeth y DU o weithredodd llywodraeth Syria yn Houla yn “berffaith glir”.

Ychwanegodd hefyd y bydd yn annerch cyfarfod o Gyngrhair y Cenhedloedd Unedig a’r Arabiaid cyn bo hir i drafod “camau brys” yn erbyn y trais yn Syria. Dywedodd ei fod yn cydlynu ymateb cryf yn erbyn y lladd gan alw am gyfarfod brys o Gyngor Diolgelwch y CU yn ystod y dyddiau nesaf.

Gemau Olympaidd

Yn y cyfamser mae’r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg,  wedi dweud wrth Andrew Marr ar y BBC y bydd unrhyw aelod o lywodraeth Syria sydd hefyd yn aelod o garfan Olympaidd y wlad yn cael eu gwahardd o’r gemau.

“Mae’r golygfeydd anwaraidd, erchyll yr ydan ni wedi eu gweld ar y teledu yn  ddigon a throi stumog unrhyw un”, meddai.

“O’n safbwynt ni, rydan ni wedi dweud yn gwbl glir yn ddiweddar: os ydych chi’n camdrin iawnderau dynol – a dyma’r achos fan hyn – yna does yna ddim croeso i chi yn y wlad yma.”