Mae ymchwiliad llofruddiaeth bellach ar y gweill, ar ôl i weddillion corff merch gael eu darganfod ger rheilffordd yn Lerpwl.

Daeth ci a’i berchennog o hyd i’r esgyrn dynol yn ardal Fazakerley, Lerpwl, ar Fai 5 eleni. Ond maen nhw bellach wedi adnabod y corff fel un Paula Hounslea, sydd wedi ei riportio ar goll o’i chartref yng Ngorllewin Derby, Lerpwl, ers Awst 22, 2009.

Heddiw, fe gyhoeddodd Heddlu Glannau Mersi eu bod nhw wedi agor ymchwiliad llofruddiaeth, ac maen nhw’n gofyn am help y cyhoedd wrth geisio datrys y mater.

“Mae’r holl achos hwn wedi bod yn anodd iawn i deulu Paula,” meddai’r Prif Arolygydd Phil McEwan. “Maen nhw wedi bod yn chwilio amdani ers mis Awst 2009, ac yn gobeithio bob dydd y byddai hi’n dychwelyd adref.

“Rydan ni’n trio gweithio allan lle fuodd Paula cyn iddi gael ei lladd, ac mi fasan ni’n ddiolchgar iawn petasai pobol yn gallu meddwl yn ôl i fis Awst, 2009.”

Ar y rêl

Fe gafodd heddweision eu galw i hen lein reilffordd ger y gyffordd â Blackthorn Road yn Fazakerley, yn dilyn galwad ffôn gan aelod o’r cyhoedd oedd wedi bod yn cerdded ei gi yn yr ardal. Y ci ddaeth o hyd i’r esgyrn.

Roedd Paula Hounslea yn 37 oed pan ddiflannodd hi. Y tro diwetha’ i’w theulu ei gweld, roedd wedi gael ei danfon gartref yn dilyn pryd mewn bwyty Chineaidd.

“Rydan ni’n awyddus iawn i glywed gan unrhyw allai fod wedi gweld unrhyw ddigwyddiadau amheus yn yr ardal hon o tua mis Medi 2011 ymlaen.

“Bydd unrhyw wybodaeth, dim ots pa mor ddibwys mae hi’n ymddangos, yn help i ddatrys yr achos hwn a dod ag ychydig o heddwch i deulu Paula.”