Bydd galeri ym mhrifddinas Lloegr yn gwthio ffiniau celf weledol trwy arddangos gwaith nad oes modd ei weld.

Mae criw Galeri Hayward yn Llundain wedi casglu hanner cant o ddarnau celf “anweledig” at ei gilydd, yn cynnwys gwaith gan Andy Warhol, Yves Klein a Yoko Ono.

Credir mai dyma’r arddangosfa gynta’ o’i math mewn prif fan celf ym Mhrydain.

Bydd yn rhaid talu £8 i fynd i weld y sioe ‘Invisible: Art about the Unseen 1957 – 2012’ fydd yn cynnwys plinth gwag, canfas o inc anweledig a labrinth nad oes modd ei weld.