Symud teithwyr o Dale Farm y llynedd
Mae sefydliadau’r cyfryngau wedi ennill achos yn yr Uchel Lys yn erbyn gorchymyn yn eu gorfodi i roi lluniau i’r heddlu o deithwyr yn cael eu symud o Dale Farm.

Cafodd gorchymyn gan y Barnwr Gratwicke yn Llys y Goron Chelmsford ym mis Chwefror ar gais Heddlu Essex, ei wrthod heddiw.

Roedd y BBC, Independent Television News, BSkyB, Channel 5, Hardcash Productions a’r newyddiadurwr fideo llawrydd Jason Parkinson wedi ymuno â’i gilydd i wrthwynebu’r gorchymyn.

Roedd eu cyfreithwyr yn dadlau y byddai’r cyfryngau yn colli ymddiriedaeth y cyhoedd petai nhw’n cael eu gorfodi i roi’r deunydd i’r heddlu.

Cafodd golygfeydd o’r heddlu yn gwrthdaro gyda   theithwyr wrth geisio eu symud o Dale Farm ger Basildon ei ffilmio ym mis Hydref y llynedd.

Roedd Heddlu Essex wedi dadlau y gallai’r lluniau eu helpu yn eu hymchwiliadau i’r trais yn ystod y digwyddiad.