David Cameron
Mae disgwyl i’r Prif Weinidog David Cameron ddweud heddiw bod dyfodol yr ewro yn y fantol, gan greu “risg anferth” i economi Prydain.

Fe fydd David Cameron yn dweud bod yr ewro ar “groesffordd” a bod yn rhaid penderfynu i ba gyfeiriad y bydd yr arian sengl yn mynd.

Mae disgwyl iddo ddweud y bydd yn gwneud “beth bynnag sy’n angenrheidiol” i gadw Prydain yn ddiogel os ydy’r ewro yn methu.