Mae swyddog cymorth cymunedol gyda Scotland Yard wedi cael ei gyhuddo o dreisio.

Mae Kevin Mitchell, 42, wedi ei gyhuddo o ymosod ar ddynes 21 oed yn Peckham, de Llundain.

Fe fydd y swyddog, sy’n gweithio yn ardan drafnidiaeth Scotland Yard, yn ymddangos gebron llys yn ddiweddarach y mis hwn i wynebu cyhuddiadau o drais ac ymosod yn rhywiol, yn ôl Heddlu Metropolitan.

Nid oedd Mitchell ar ddyletswydd pan gafodd y drosedd honedig ei chyflawni ar 16 Rhagfyr y llynedd. Mae wedi cael ei wahardd o’i waith tra bod yr achos yn parhau.