Canghellor George Osborne
Mae’r ansicrwydd gwleidyddol yng Ngwlad Groeg a’r dyfalu a fydd y wlad yn gadael yr ewro yn cael effaith ar economïau ar draws Ewrop, gan gynnwys Prydain, mae’r Canghellor George Osborne wedi rhybuddio.

Mae’r ansicrwydd ynglŷn â dyfodol gwledydd ym mharth yr ewro yn cael effaith ar dwf yr economi, meddai.

Roedd y Canghellor ym Mrwsel lle mae’n cymryd rhan mewn trafodaethau rhwng gweinidogion cyllid yr Undeb Ewropeaid ynglŷn â’r argyfwng economaidd.