Jeremy Hunt
Mae cyn bennaeth y gwasanaeth sifil, yr Arglwydd O’Donnell, wedi dweud wrth Ymchwiliad Leveson y dylai’r Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Hunt fod wedi gwybod fod ei ymgynghorydd yn rhoi gwybodaeth i News Corp ynglŷn â’u cais i brynu BSkyB.

Os oedd gweinidogion neu eu hymgynghorwyr yn rhoi gwybodaeth i News Corp, yna fe ddylen nhw fod wedi gwneud yr un peth  i gwmnïau eraill oedd hefyd wedi gwneud cais, meddai’r Arglwydd O’Donnell.

Mae Jeremy Hunt wedi bod dan bwysau i ymddiswyddo ynglŷn â’r ffordd roedd wedi delio â chais News Corp i brynu BSkyB ers mis Ebrill. Cafodd ei ymgynghorydd Adam Smith ei orfodi i ymddiswyddo ar ôl i 163 o dudalennau o e-byst gael eu cyflwyno i’r ymchwiliad yn datgelu ei gysylltiad agos â News Corp.

Mae Hunt yn mynnu mai Smith, ac nid ef, oedd yn cysylltu â News Corp ac mae’n bwriadu amddiffyn ei ymddygiad yn Ymchwiliad Leveson.

Dywedodd O’Donnell wrth yr ymchwiliad y dylai Hunt fod wedi gwybod beth oedd ei ymgynghorydd yn ei wneud.