Jack Straw
Mae cadfridog o Libya yn dwyn achos cyfreithiol yn erbyn Jack Straw yn dilyn honiadau fod y cyn-weinidog tramor wedi caniatáu iddo gael ei gludo dramor yn anghyfreithlon.

Mae cyfreithwyr Abdel Hakim Belhadj wedi cadarnhau eu bod nhw’n dwyn achos yn dilyn adroddiadau fod Jack Straw wedi llofnodi dogfennau oedd yn caniatáu i’r rebel gael ei anfon yn ôl i’w wlad frodorol yn 2004. Roedd Libya bryd hynny dan reolaeth Muammar Gaddafi.

Mae Abdel Hakim Belhadj, 45, yn dweud ei fod wedi bod yn alltud yn China a’i fod ef a’i wraig wedi ceisio dod i Brydain i wneud cais am loches. Gaethon nhw eu cadw a’u hanfon yn ôl i Libya, ble gaethon nhw eu carcharu a’u harteithio.

Mae’r achos sifil yn erbyn yr Aelod Seneddol Llafur yn ceisio archwilio ei rôl yn y broses o gludo Abdel Hakim Belhadj i Libya, ac yn ceisio iawndal am y boen a achoswyd.

Mae dyn arall, Sami Al Saadi, yn honni ei fod wedi dioddef yr un ffawd ag Abdel Hakim Belhadj a hefyd yn dwyn achos yn erbyn Jack Straw.