Abu Qatada
Mae’r clerigwr Mwslimaidd radical Abu Qatada wedi cael ei arestio yn ei gartref yn Llundain ac wedi clywed y  bydd ymdrech o’r newydd i geisio ei estraddodi.

Mae disgwyl iddo ymddangos o flaen llys gwrthderfysgaeth Prydain yn Llundain prynhawn ma i wynebu ymdrech newydd i’w anfon o’r wlad, a gorchymyn y  Swyddfa Gartref ei fod yn dychwelyd i garchar Long Lartin yn y cyfamser.

Cafodd Qatada ei arestio gan swyddogion yr Asiantaeth Ffiniau oriau’n unig cyn bod disgwyl i’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May wneud cyhoeddiad yn y Senedd am gytundeb gyda’r awdurdodau yng Ngwlad yr Iorddonen.  Mae ’na ymdrechion wedi bod i geisio sicrhau na fyddai Qatada yn cael ei arteithio yno.

Mae disgwyl i Theresa May gyhoeddi hefyd nad yw’n bwriadu apelio yn erbyn dyfarniad y Llys Iawnderau Dynol yn Strasbwrg oedd wedi atal cynlluniau i anfon Qatada yn ôl i Wlad yr Iorddonen.

Mae disgwyl i Qatada frwydro yn erbyn y penderfyniad i’w estraddodi.