Ed Milliband
Mae arweinydd y Blaid Lafur, Ed Milliband wedi cynnig gosod cap o £5,000 ar roddion gan yr undebau i’r blaid.

Wrth siarad ar raglen Andrew Marr ar y BBC y bore yma, dywedodd ar y llaw arall ei fod eisiau gweld y drefn yn parhau o ofyn i aelodau undebau os nad ydyn nhw eisiau cyfrannu £3 y flwyddyn i’r Blaid Lafur allan o’u tâl aelodaeth.

Arr hyn o bryd rhaid i aelod o undeb ddewis peidio cyfrannu’n otomatig o’u tâl aelodaeth yn hytrach na dewis gwneud hynny.

“Mae’n rhaid i ni newid y modd yr ydan ni’n ariannu gwleidyddiaeth a chael gwared ag effaith arian mawr o wleidyddiaeth,” meddai gan ychwanegu bod rhaid cael cyfyngiadau llawer mwy llym ar wariant.

Dywedodd hefyd y buasai’r newid yma yn costio rhai milynnau o bunnau i Lafur ond ei bod yn bwysig cadw’r cysylltiad rhwng Llafur a’r undebau trwy gyfraniadau yr aelodau unigol.

Mae arweinwyr y pleidiau gwleidyddol eisoes wedi cychwyn trafod newid y drefn o ariannu’r pleidiau. Mae’r Ceidwadwyr eisiau gweld rhagor o gyfyngu ar roddion i Lafur oddi wrth yr undebau a chap o £50,000 ar roddion oddi wrth unigolion.

Mae Comisiynydd Safonnau’r Senedd, Sir Christopher Kelly yn argymell uchafswm o £10,000 ar roddion unigol.