Mae rhagor o streicau athrawon yn fwy tebygol yn sgil penderfyniadau dau o’r undebau athrawon mwyaf ym Mhrydain heddiw.

Wrth i’r anghydfod rhwng athrawon a’r llywodraeth waethygu, mae Undeb Cenedlaethol yr Athrawon (NUT) a’r NAS/UWT wedi datgan cefnogaeth i weithredu diwydiannol pellach, gan gynnwys streiciau.

Mae’r NUT wedi pasio cynnig yn ei gynhadledd flynyddol yn Torquay yn galw am streiciau mor gynnar â’r haf yma ar sail y pryderon am newidiadau Llywodraeth i bensiynau’r sector cyhoeddus.

Rai oriau ynghynt, cytunodd yr NAS/UWT, sy’n cynnal ei gynhadledd yn Birmingham i ddwysáu ei ymgyrch o weithredu diwydiannol ynghylch cyflogau, pensiynau, amodau gwaith a cholli swyddi. Mae hyn yn cynnwys y posibilrwydd o streiciau yn nhymor yr hydref.