Mae Prydain mewn safle cryfach i wynebu streic gan yrwyr tanceri tanwydd o ganlyniad i gyngor Llywodraeth San Steffan yr wythnos ddiwethaf.

Dyna farn yr Ysgrifennydd Tramor, William Hague, ar ôl i weinidogion wynebu beirniadaeth lem am annog gyrwyr i heidio at y gorsafoedd petrol.

Fe fydd undeb Unite yn dechrau trafodaethau â gwasanaeth cymodi Acas yfory. Dywedodd yr undeb na fydd yna unrhyw streic nes ar ôl gwyliau’r Pasg ar y cynharaf.

Serch hynny, mynnodd William Hague fod gweinidogion wedi bod yn gywir i annog gyrwyr y gallai tanwydd fod yn brin.

“Os nad oedden nhw wedi rhybuddio pobol, a’r streic wedi ei gynnal dros yr wythnosau nesaf, fe fyddai pobol wedi eu cyhuddo nhw o fod yn araf i ymateb,” meddai wrth raglen Andrew Marr y bore ma.

“Mae’r wlad yn fwy parod ar gyfer streic gan yrwyr tanceri nawr nag oedd hi wythnos yn ôl, felly rydw i’n meddwl eu bod nhw wedi gweithredu’n gywir.

“Rydw i’n credu bod fy nghyd-weithwyr wedi gwneud y peth iawn wrth annog pobol i gymryd gofal ac rydw i’n credu y bydd digwyddiadau dros y dyddiau nesaf yn cyfiawnhau eu penderfyniad.”