Fe fydd pris stamp dosbarth cyntaf yn codi 14c i 60c, cyhoeddodd y Post Brenhinol heddiw.
Fe fydd y prisiau yn codi o 46c i 60c am stamp dosbarth cyntaf, ac o 36c i 50c am stamp ail ddosbarth o 30 Ebrill.
Mae’r cynnydd yn dilyn penderfyniad gan Ofcom i ganiatáu i’r Post Brenhinol osod eu prisiau eu hunain.
Dywed y Post Brenhinol y bydd stampiau ail ddosbarth yn parhau i fod ymhlith y rhataf yn Ewrop.
Mae’r Post Brenhinol hefyd wedi cyhoeddi y bydd miliynau o bobl sydd ar incwm isel yn gallu prynu hyd at 36 o stampiau Nadolig am y pris cyfredol.
Mae’r prisiau newydd yn dilyn gostyngiad sylweddol yn nifer y llythyron sy’n cael eu postio – o 84 miliwn y dydd chwe blynedd yn ôl i 59 miliwn erbyn hyn.
Dywed Ofcom mai’r bwriad yw diogelu gwasanaeth post y DU a’i gwneud yn fwy cynaliadwy a fforddiadwy.