David Cameron
Mae’r Blaid Geidwadol heddiw wedi cyhoeddi rhestr o gyfranwyr sydd wedi ciniawa gyda David Cameron yn Rhif 10 Downing Street.

Ac mae’r Prif Weinidog wedi addo cyhoeddi rhestr bob chwarter o unrhyw giniawau sy’n cael eu cynnal gyda phobl sydd wedi cyfrannu mwy na £50,000 i’r blaid.

Daw’r cyhoeddiad ar ôl i David Cameron fod dan bwysau yn dilyn honiadau gan gyn gyd-drysroydd y Blaid Geidwadol Peter Cruddas y gallai cyfraniad sylweddol i’r blaid sicrhau cyfarfod gyda gweinidogion a chael dylanwad ar bolisi.

Fe ymddiswyddodd Peter Cruddas ddydd Sadwrn ar ôl i’r Sunday Times ddatgelu’r manylion am ei honiadau.

Dywedodd David Cameron bod  sylwadau Cruddas yn “hollol annerbyniol” ac mae wedi cyhoeddi y bydd ymchwiliad mewnol gan y blaid yn cael ei gynnal.

Mae disgwyl i Francis Maude wneud cyhoeddiad yn Nhy’r Cyffredin prynhawn ma ynglyn â diwygiadau i’r ffordd mae’r blaid yn cael ei hariannu.