Mae Peter Cruddas, cyd-drysorydd y Blaid Geidwadol wedi ymddiswyddo ar ôl i ohebwyr y Sunday Times ei ffilmio yn cynnig mynediad at David Cameron am gyfraniadau i’r blaid o £250,000 y flwyddyn.

Dywedodd mewn cyfarfod ffug efo cudd-ohebwyr y papur y buasai “pethau’n agor i chi’  a “buasai hyn yn anhygoel ar gyfer eich busnes” petae nhw’n cyfrannu swm fel hyn i goffrau’r blaid.

Roedd cyfrannu chwarter miliwn o bunnau meddai, yn golygu cyfle i lobïo Mr Cameron yn uniongyrchol gan fwydo eu sylwadau yn syth i Downing Street. Doedd dim diben meddai “crafu o gwmpas efo cyfraniadau o £10,000”.

Yn ôl y stori yn y Sunday Times, roedd Mr Cruddas o dan yr argraff bod y gohebwyr, oedd yn honni eu bod yn gweinyddu cronfeydd cyfoethog, yn bwriadu cyfrannu o gyfrifon yn Lichtenstein yn groes i ddeddfau etholiadol. Yna, medd y stori, fe aeth y gohebwyr a Mr Cruddas ymlaen i drafod sut i osgoi hyn gan greu is-gwmni yn y DU neu ddefnyddio gweithwyr yn y DU i drefnu’r cyfraniad.

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr, “Ni chafodd unrhyw gyfraniad ei dderbyn na’i ystyried yn ffurfiol gan y Blaid Geidwadol. Mae pob cyfraniad i’r Blaid Geidwadol yn cydymffurfio efo deddfau etholiadol. Yn wahanol i’r BLaid Lafur, ble mae cyfraniadau gan yr undebau yn cael eu cyfnewid am bolisiau, nid yw cyfraniadau i’r Blaid Geidwadol yn prynu polisiau gan y blaid na’r llywodraeth.

Ymddiheuriad

Mae Mr Cruddas ei hun wedi ymddiswyddo y bore yma. Dywedodd “Rwyf yn difaru fy mod wedi creu unrhwy argraff o amhriodoldeb oherwydd fy ymffrost yn ystod y sgwrs. Yn amlwg nid oes unrhyw bosibilrwydd o gyfrannwyr yn gallu dylanwadau ar bolisi neu gael mynediad anaddas at wleidyddion.”

“Yn bendodol, nid oeddwn ar unrhyw gyfrif yn gallu cynnig neu yn ystyried cynnig mynediad o ganlyniad i gyfraniad. Yn ogystal, nid wyf erioed i mi wybod wedi cyfarfod unrhyw un o uned bolisi Rhif 10. Ond er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, rwyf wedi penderfynu ymddiswyddo yn syth.”

Cyd- drysorydd ers mis yn unig

Penodwyd Mr Cruddas yn gyd-drysorydd ddechrau’r mis ac fe gyfaddefodd nad oedd wedi ymgynghori efo unrhyw wleidydd nag uchel swyddog o’r blaid cyn cynnal y sgwrs.

Mae sawl aelod o’r Blaid Lafur wedi mynegi syndod am gynnwys y ffilm.

Dywedodd Denis McShane AS bod y sefyllfa yn ‘anghredadwy’ gan ychwanegu mai dyma’r math o beth “yr ydym yn chwerthin amdano” yng nghyd-destun gweldyddiaeth yn yr India neu yr Eidal.

Galwodd ar y Prf Weinidog i ddod gerbron Tŷ’r Cyffredin dydd Llun ac i gynnal ymchwiliad cyhoeddus i’r mater.

Dyma hefyd oedd ymateb yr aelod Llafur, Michael Dugher.

“Dro ar ôl tro rydym wedi gweld y Blaid Geidwadol yn gwrthwynebu rhoi cap ar gyfraniadau oddi wrth unigolion cyfoethog. Rwan mae’n amlwg pam eu bod yn gwrthwynebu.”

“Dylai David Cameron fod yn gwbl agored. Wniaff y Prif Weinidog ddweud beth yn union y mae’n ei wybod am ymdrech honnedig i werthu mynediad a dylanwadu ar waith 10 Downing Street?”

Yn dilyn ymchwiliad i’r drefn o ariannu pleidiau gwleidyddol fe wnaeth y Comisiwn Safonnau Mewn Bywyd Cyhoeddus ddweud llynedd y dylai’r pleidiau gael £23m yn ychwnaegol o arian trethdalwyr er mwyn gostwng lefel unrhyw ddibynniaeth ar gyfraniadau enfawr.

Fe wnaeth  y Comisiwn hefyd argymell cap o £10,000 ar gyfraniadau gan unigolion.