Teresa May
Mae’r Ysgrifennydd Cartref Teresa May wedi awgrymu bod yr Alban wedi elwa o gyd-weithio oddi mewn i’r Deyrnas Unedig yn yr ymgyrch yn erbyn terfysgaeth ryngwladol.

Wrth annerch cynhadledd wanwyn Ceidwadwyr yr Alban yn Troon dywedodd y gallai’r wlad wynebu ‘mewnfudo enfawr’ os y buasai’r wlad yn annibynnol.

Dywedodd nad oedd yn amau o gwbl y gallai yr Alban oroesi fel gwlad annibynnol ond pwysleisiodd mai mewn undeb mae nerth.

“Gyda’n gilydd rydym yn gryfach,” meddai. “Yn gryfach ar lwyfan y byd, cryfach yn gwarchod ein sofraniaeth yn Ewrop. Rydym yn gryfach yn ein cymunedau.”

Ychwanegodd bod gwledydd y DU yn sicr o elwa o warchod eu ffiniau “rhag y rhai sydd am geisio gwneud drwg i ni.”

Fe wnaeth holl adnoddau’r DU ymateb i’r ymosodiad terfysgol ar faes awyr Glasgow er engrhaifft meddai, gan fynnu bod “llawer mwy yn dod a ni at ein gilydd nag sydd yn ein gwahanu.”