George Osborne
Hybu busnes, cefnogi arloesedd a gwarchod teuluoedd a’r rhai hynny sy’n chwilio am waith, dyna oedd neges agoriadol y Canghellor George Osborne heddiw wrth gyflwyno’r Gyllideb.

Ond dywedodd y byddai’r Llywodraeth yn dal at y cynllun toriadau presennol yn ystod y cyfnod nesaf er mwyn ceisio gwella sefyllfa economaidd Prydain yn y tymor hir. Dywedodd y byddai’r Gyllideb heddiw yn ategu ei “hymroddiad di-droi’n ôl” i ddelio â’r ddyled.

Wrth wneud ei gyhoeddiad heddiw, dywedodd fod disgwyl i Brydain osgoi dirwasgiad swyddogol eleni, er bod disgwyl i ddiweithdra gyrraedd ei huchafbwynt eleni.

Diweithdra

Mae swyddfa annibynnol yr OBR yn darogan y bydd diweithdra yn bwrw 8.7% ar draws y DU eleni, cyn disgyn yn ôl i 6.3% erbyn diwedd cyfnod y gyllideb.

Wrth gyfeirio at ystadegau yr OBR heddiw, dywedodd  George Osborne bod disgwyl twf o 0.8% yn economi y DU ystod 2012.

Dywedodd hefyd fod disgwyl i chwyddiant i ostwng o 2.8% eleni i 1.9% yn 2013.

Wrth drafod benthyciadau’r Llwyodraeth yn ei ddatganaid, dywedodd y Canghellor fod disgwyl i fenthyciad Prydain fod £11 biliwn yn is na’r darogan hydref diwethaf am eleni – gan gyrraedd cyfanswm o £126 biliwn.

Mae’r OBR hefyd wedi cadarnhau bod disgwyl i’r Llywodraeth sicrhau mandad ariannol i gael gwared ar y diffyg strwythurol presennol erbyn 2016/17.

Cynydd yn nhreth tybaco – ond nid alcohol

Bydd dim newid ar y dreth ar alcohol ond fe fydd na gynnydd o 5% uwchben chwyddiant ar gynnyrch tybaco, sef 37c ar becyn o sigarets o 6pm heno.

Yn ogystal â hynny, dywedodd y Canghellor ei fod eisiau symleiddio lwfansau pensiynwyr, er mwyn creu un lwfans personol i bawb. Dywedodd y byddai hyn yn dechrau yn 2013.

Dywedodd hefyd y byddai’n cyflwyno cynlluniau i symleiddio Treth ar Werth, ond y byddai bwyd, dillad plant, llyfrau a phapurau newydd yn dal i gael eu heithrio o’r TAW.

Cyhoeddwyd hefyd y bydd pobl ar incwm o £50,000 yn colli budd-dal plant yn gyfan gwbl.

Lwfans treth yn codi

Mae’r Canghellor hefyd wedi cyhoeddi y bydd y lwfans treth personol yn cael ei godi i £9,205 o fis Ebrill nesaf ymlaen – y cynnydd uchaf erioed i’r Llywodraeth ei wneud.

Bydd hyn yn golygu y bydd gweithwyr yn gallu ennill cyflog o £9,205 cyn gorfod talu treth incwm o fis Ebrill nesaf ymlaen – sy’n golygu cynydd o £1,100 ychwanegol i’r lwfans treth personol.

Wrth gyhoeddi’r cynnydd heddiw, dywedodd George Osborne y byddai’n hoffi gweld “y rheiny sy’n cael eu talu lleiaf i gael eu codi allan o dalu treth yn gyfan gwbwl,” tra’n cymryd “mwy o dreth oddi wrth y cyfoethocaf.”

Ar hyn o bryd, mae gan weithwyr yr hawl i ennill hyd at £7,475 o gyflog yn ddi-dreth, ond fe fydd hwn yn cynyddu bron i £2,000 o fis Ebrill 2013 ymlaen.

Tâl Rhanbarthol – cyhoeddi adolygiad

Mae George Osborne wedi cyhoeddi  y bydd yn cynnal adolygiad o dâl rhanbarthol yn y sector cyhoeddus.

Dywedodd y Canghellor y byddai corff annibynnol yn cael ei sefydlu i adolygu tâl rhanbarthol i sicrhau bod y cyflogau lleol yn adlewyrchu costau byw mewn gwahanol ardaloedd.

Wrth gyhoeddi’r Gyllideb heddiw, dywedodd y byddai rhai adrannau yn cael yr hawl i symud tuag at dâl rhanbarthol i weision sifil eleni, pan fod rhewi cyflogau yn dod i ben.