Banc Lloegr
Mae graddfa chwyddiant wedi cyrraedd y raddfa isaf ers 15 mis ym mis Chwefror, yn ôl ffigurau swyddogol sydd wedi cael eu cyhoeddi heddiw.

Mae Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) wedi gostwng i 3.4% o’i gymharu â 3.6% ym mis Ionawr, yn ôl y Swyddfa Ystadegau.

Serch hynny, dywed economegwyr bod gobeithion Banc Lloegr y bydd chwyddiant yn gostwng i 2% erbyn 2013, sef targed Llywodraeth San Steffan, yn “optimistaidd” wrth i brisiau olew gynyddu.