Mae gweinidog yn Llywodraeth Prydain wedi rhybuddio na fydd unrhyw newid meddwl ar y bwriad i ganiatáu priodasau hoyw.
Mae’r broses o ymgynghori’n dechrau ar hynny heddiw ond, yn ôl Lynne Featherstone o’r Swyddfa Gartref, fydd yna ddim cyfle i roi barn ar yr egwyddor.
Dim ond gofyn am sylwadau ar ffyrdd ymarferol o weithredu’r cynllun y bydd y Llywodraeth, meddai hi wrth bapur yr Independent.
Hynny er gwaetha’ gwrthwynebiad ffyrnig gan rai arweinwyr crefyddol – yn enwedig yr Eglwys Babyddol – ac er bod tua hanner aelodau’r Blaid Geidwadol yn erbyn hefyd.
‘Dim camu’n ôl’
“Does yna ddim camu’n ôl o gwbl,” meddai Lynne Featherstone. “Y cwestiwn hanfodol ydi sut y byddwn ni’n cyflwyno priodasau sifil un-rhyw, nid a yden ni am wneud hynny.”
Ddydd Sul, fe gafodd neges gan ddau archesgob ei darllen mewn eglwysi Pabyddol trwy wledydd Prydain – roedd yn rhybuddio am y peryg o “golli ystyr priodas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol”.
Y bwriad yw cyflwyno’r newid erbyn 2015.