iPad
Mae na ddyfalu bod cwmni Apple yn bwriadu lansio iPad newydd yfory.

Mae Apple wedi gwahodd newyddiadurwyr i’r hun sy’n cael ei ddisgrifio fel “achlysur arbennig” yng ngogledd Llundain yfory a fydd yn digwydd ar y cyd â lansiad arbennig yng Nghaliffornia lle mae disgwyl i’r cwmni gyflwyno eu dyfais ddiweddaraf.

Ond mae’r cwmni, sy’n gyfrinachol iawn ynghylch eu lansiadau, wedi gwrthod gwneud sylw pellach.

Mae’r gwahoddiad yn dweud wrth newyddiadurwyr: “Mae grennym ni rywbeth mae’n rhaid i chi ei weld. A’i gyffwrdd.”

Mae na ddyfalu mai enw’r ddyfais newydd fydd yr iPadHD yn hytrach na’r iPad3 sy’n cyfeirio at eglurdeb llun yr iPad newydd.

Mae Apple wedi gwerthu 55 miliwn iPad yn fyd eang ers mis Ionawr eleni.

Cafodd yr iPhone 4S ei lansio ym mis Hydref y llynedd, ddyddiau’n unig wedi marwolaeth cyn brif weithredwr Apple, Steve Jobs fu’n dioddef o gansr.