George Galloway
Mae disgwyl i’r cyn-Aelod Seneddol George Galloway lansio ymgais heddiw i ddychwelyd i San Steffan.

Mae disgwyl i George Galloway wneud datganiad ynghylch ei fwriad i sefyll yn is-etholiad Gorllewin Bradford.

Cyhoeddodd George Galloway ar Facebook ei fod yn ymweld â Bradford “i ymgynghori ar frwydro am sedd yn yr is-etholiad sydd i ddod”, ond nid yw’n wybyddus eto a fydd e’n sefyll yn enw ei blaid Respect neu fel annibynnwr.

Ychwanegodd, “Efallai mai dyma’r foment pan fyddwn ni’n gallu dod ynghyd i atal rhyfeloedd oddi cartref a’r poenydio didrugaredd sy’n cael ei gyflawni yn erbyn ein pobl ein hunain adre.”

Bu Galloway’n Aelod Seneddol Llafur yn Glasgow tan iddo gael ei ddiarddel o’r Blaid Lafur yn dilyn ei wrthwynebiad chwyrn i ryfel Irac a Tony Blair. Yn 2005 etholwyd ef i San Steffan i gynrychioli sedd Bethnal Green yn enw Respect, ond methodd yn 2010 â chael ei ail-ethol i’r sedd. Tra’n Aelod Seneddol yn 2006 bu’n cystadlu yn y gyfres realiti Big Brother.

Daw is-etholiad yng Ngorllewin Bradford ar ôl i’r Aelod Seneddol blaenorol, y Llafurwr Marsha Singh, ymddiswyddo ar ôl derbyn cyngor meddygol.