Meteorit (llun NASA)
Mae heddluoedd yng ngogledd Ynysoedd Prydain wedi derbyn cannoedd o alwadau ar ôl i bêl o dân gael ei weld yn yr awyr.

Roedd adroddiadau am “olau llachar” a “phêl oren” ar draws yr Alban a gogledd Lloegr tua 9.40pm neithiwr.

Mae’n debyg bod cannoedd os nad miloedd o bobol wedi gweld y golau. Y gred yw mai meteorit ydoedd.

Trydarodd Swyddfa’r Met: “Helo bawb, os ydych hi wedi gweld rhywbeth yn yr awyr, rydyn ni’n credu mai meteorit oedd o.”

Dywedodd Arsyllfa Kielder eu bod nhw wedi gweld “pêl anferth o dân” yn teithio o’r gogledd i’r de ar draws Northumberland tua 9.41pm.

“Ar ôl 30 mlynedd o wylio’r awyr dyna’r peth gorau ydw i wedi ei weld erioed,” trydarodd yr arsyllfa.

Dywedodd yr awdur a seryddwr, Dr David Whitehouse, ei fod yn credu y gallai’r gwibfaen fod wedi goroesi a syrthio i’r ddaear.

“Wrth ystyried pa mor llachar ydoedd, mae’n bosib ei fod yn ddigon mawr i oroesi a tharo’r ddaear,” meddai.

“Ond mae angen i bobol ddarganfod ei daflwybr fel ein bod ni’n gwybod lle syrthiodd y meteorit.”

Ychwanegodd ei fod yn credu bod y meteorit tua maint dwrn ac wedi’i ffurfio o weddillion planed.

“Mae’n gnepyn o garreg sydd, mae’n siŵr, wedi dod o rywle rhwng y blaned Mawrth ac Iau ac wedi bod yn y gofod ers miliynau o flynyddoedd,” meddai.

“Mae yna ddegau o filoedd o gerrig yn troi o gwmpas yr haul rhwng Mawrth ac Iau. Weithiau mae darnau yn taro’r Ddaear.”

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Strathclyde eu bod nhw’n “boddi” dan alwadau ynglŷn â gwrthrych llachar yr awyr dros orllewin yr Alban.