Mae na rybudd y gall tabledi cysgu, sy’n cael eu rhoi ar bresgripsiwn yn rheolaidd yn y DU, gynyddu’r risg o farwolaeth, yn ôl gwaith ymchwil newydd.

Yn ôl arbenigwyr, mae’r risg o farw yn cynyddu os ydy’r dos yn uwch, tra bod dos uwch hefyd yn cynyddu’r risg o gael cansr.

Cafodd nifer helaeth o gyffuriau eu dadansoddi yn ystod yr ymchwil o fwy na 10,500 o bobl sy’n cymryd tabledi cysgu.