Mae'r arolwg barn yn newyddion da i'r Prif Weinidog David Cameron
Mae’r Ceidwadwyr ar y blaen i Lafur am y tro cyntaf ers dros flwyddyn, yn ôl arolwg barn sy’n cael ei gyhoeddi mewn dau bapur Sul heddiw.

Mae’r gefnogaeth i’r Torïaid yn sefyll ar 39%, un pwynt canran i fyny ers y mis diwethaf, ac mae Llafur yn aros yr un fath ar 38%, a’r Democratiaid Rhyddfrydol i lawr un pwynt canran i 10%.

Dywed y polwyr, ComRes, mai dyma’r tro cyntaf ers mis Hydref 2010 i’r Torïaid fod ar y blaen, ac iddyn nhw weld cynnydd o bedwar pwynt canran yn eu cefnogaeth ers i’r Prif Weinidog David Cameron weithredu feto yn yr Undeb Ewropeaidd ym mis Rhagfyr.

Cafodd 2,014 o oedolion eu holi ar-lein ledled y Deyrnas Unedig ar 15 a 16 Chwefror ar gyfer yr arolwg a gafodd ei gomisiynu gan yr Independent on Sunday a’r Sunday Mirror.