Senedd yr Alban
Mae pwyllgor yn Senedd San Steffan wedi dweud y dylai y Deyrnas Unedig gyfan gael pleidleisio i benderfynu a ddylai Senedd yr Alban gael grymoedd pellach.

Dywedodd y pwyllgor na ddylai pleidlais ar ddatganoli i’r eithaf (devo-max) gael ei gynnig i bobol yr Alban yn unig.

Byddai yn rhaid i bawb yn y Deyrnas Unedig bleidleisio o blaid sefydlu cyfundrefn dreth newydd yn yr Alban, oherwydd fe fyddai hynny yn effeithio ar y boblogaeth gyfan, yn ôl pwyllgor cyfansoddiadol Tŷ’r Arglwyddi.

Daw argymhellion y pwyllgor ddiwrnod ar ôl i’r Prif Weinidog, David Cameron, addo rhagor o rymoedd i Senedd yr Alban pe bai’r boblogaeth yn penderfynu troi cefn ar annibyniaeth.

Ychwanegodd y pwyllgor cyfansoddiadol nad oedd gan Senedd yr Alban yr awdurdod i alw refferendwm heb ganiatâd Senedd San Steffan.

“Ar ôl edrych ar bapurau ymgynghorol y llywodraethau mae’n amlwg nad oes gan Senedd yr Alban yr awdurdod i alw refferendwm ar eu pennau eu hunain,” meddai cadeirydd y pwyllgor, Baroness Jay.

“Rydyn ni hefyd yn gryf o’r farn y dylai unrhyw refferendwm fod yn benderfyniad ‘ie neu na’ rhwng annibyniaeth neu’r status-quo.

“Byddai yn rhaid i bob rhan o’r Deyrnas Unedig bleidleisio o blaid datganoli i’r eithaf, a fyddai yn creu cyfundrefnau treth gwahanol iawn o fewn y Deyrnas Unedig.”

Mae’r broses o ddatganoli grymoedd ariannol i’r Alban yn debygol o osod cynsail ar gyfer Cymru pe bai’r wlad honno yn penderfynu dilyn yr un broses.

Yn y cyfamser mae Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, wedi ymateb i gynnig David Cameron am ragor o rymoedd, gan ddweud na fydd pobol y wlad yn “cael eu twyllo” ganddo.