Ian Paisley
Mae Ian Paisley, cyn Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, wedi cael ei gludo i’r ysbyty, yn ôl adroddiadau.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Ulster yn Dundonald ger Belfast ddoe. Yn ôl rhai adroddiadau sydd heb eu cadarnhau, roedd wedi cael trawiad ar y galon.

Roedd Ian Paisley, 85 oed, yn gyn Aelod Seneddol gogledd Antrim ac wedi bod yn arweinydd Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd am bron i 40 mlynedd.

Roedd newydd ddechrau ysgrifennu ei hunangofiant.