Mae pobol sy’n yfed dau wydryn mawr o win neu dau beint o gwrw cryf y dydd tair gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu canser y geg, yn ôl ymgyrch newydd gan y llywodraeth.

Bydd yr hysbysebion newydd yn dangos fod yfed dros y cyfyngiad dyddiol argymelledig yn gallu arwain at broblemau iechyd difrifol.

Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn argymell nad ydi dynion yn yfed mwy na tri neu bedwar uned bob dydd, ac nad ydi merched yn yfed mwy na dau neu dri.

Fel rhan o’r ymgyrch newydd mae’r llywodraeth wedi lansio cyfrifiannell ar-lein fydd yn caniatáu i bobol fewnbynnu faint y maen nhw’n ei yfed.

Mae’r ymgyrch yn annog pobol i fynd heb alcohol am rai dyddiau, peidio yfed gartref cyn mynd allan, ac yfed o wydrau llai.

Daw’r ymgyrch ar ôl i arolwg o 2,000 o bobol ddangos nad oedd 85% yn gwybod y gallai yfed dros y cyfyngiad dyddiol gynyddu’r risg o ddatblygu canser y fron.

Doedd 65% ddim yn gwybod y byddai yn cynyddu’r risg o ddatblygu canser y coluddyn, a 59% ddim yn gwybod ei fod yn cynyddu’r risg o ganser y geg, gwddf a’r llwnc.