Michelle Mone
Mae’r Albanes sy’n berchen cwmni dillad isaf Ultimo wedi dweud wrth bapur y Sunday Times y bydd yn symud ei chwmni a’i chartref i Lundain os mai ‘ie’ fydd canlyniad y refferendwm yn 2014.
Dywedodd Michelle Mone ei bod yn credu y bydd Alban annibynnol yn gwneud drwg i fyd busnes yn y wlad.
“Bydd popeth yn siwr o fynd i fyny a tydw’i ddim yn credu ein bod angen hynny ar hyn o bryd” meddai.
Mae Ms Mone yn dod o Glasgow ac ymhlith y merched busnes mwyaf llewyrchus ym Mhrydain.
Mae Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond yn anghytuno a’i phryderon.
“Mae pryderon Michelle yn seiliedig ar y syniad y byddwn yn codi trethi. Mewn gwirionedd ein bwriad yw gostwng trethi busnes fydd yn sicr o fudd nid yn unig i gadw Michelle Mone yma ond hefyd yn denu llawer o gwmniau eraill i’r Alban”.
Ychwanegodd bod Ms Mone wedi gwneud yr un bygythiad cyn etholiadau 2007.