Protest Occupy Wall Street yn Llundain llynedd
Cafodd dros 300 o brotestwyr eu harestio yn Oakland, Califfornia mewn protest drefnwyd gan fudiad sy’n gwrthwynebu anghyfartaledd economaidd a gormodedd corfforaethol ym mhedwar ban byd.

Roedd dros 2000 o bobl yn y brotest drefnwyd gan fudiad Occupy Wall Street ac fe ddefnyddiodd yr heddlu nwy dagrau a pheli fflachio ffrwydrol i geisio gwasgaru’r protestwyr.

Fe dorrodd y protestwyr i mewn i Neuadd y Ddinas a llosgi baner America.

Dyma’r eildro i brotest droi’n chwerw yn Oakland. Ym mis Tachwedd llynedd fe wnaeth yr heddlu ddefnyddio grym i chwalu gwersyll sefydlwyd gan y mudiad.

Pryd hynny cafodd y maer Jean Quan ei beirniadu’n hallt am weithredoedd yr heddlu. Y tro yma mae wedi galw ar y protestwyr i “roi’r gorau i ddefnyddio Oakland fel maes chwarae”.

Occupy Wall Street drefnodd y brotest yn Llundain arweiniodd at sefydlu’r gwersyll y tu allan i Eglwys Gadeiriol St Paul.