Mae’r pump dyn gafodd eu harestio ddoe gan dditectifs o Scotland Yard ynglyn â honiadau bod newyddiadurwyr wedi talu plismyn am wybodaeth wedi cael eu rhyddhau ar fechniaeth.
Cafodd pedwar o’r dynion, sydd rhwng 29 a 46 oed, eu harestio yn eu cartefi ac wrth eu gwaith yn Llundain ac Essex. Aeth y pumed i swyddfa’r heddlu o’i wirfodd.
Mae’r dyn 29 oed yn blismon ac yn gweithio i Uned Plismona Tiriogaethol Heddlu’r Metropolitan. Cafodd ei arestio mewn swyddfa’r heddlu yng nghanol Llundain tra ar ddyletswydd, ar amheuaeth o lygredigaeth o dan amodau Deddf Atal Llygredigaeth 1906, camymddwyn mewn swydd gyhoeddus a chynllwynio yng nghyd- destun y ddau drosedd.
Ef yw’r ail blismon i gael ei arestio dan Weithrediad Elvenden wedi i blismones 52 oed gael ei harestio a’i rhyddhau ar fechniaeth y mis diwethaf.
Mae’r pedwar arall yn cael eu holi ar amheuaeth o lygredigaeth, cynorthwyo ag annog camymddwyn mewn swydd gyhoeddus a chynllwynio yng nghyd- destun y troseddau.
Digwyddodd yr arestio yn dilyn trosglwyddo gwybodaeth gan News Corporation i’r heddlu a bu plismyn yn archwilio swyddfeydd News International yn Wapping a chartrefi’r newyddiadurwyr.
Deellir mai Chris Pharo, pennaeth newyddion y Sun, Mike Sullivan, y golygydd trosedd, Graham Dudman, cyn olygydd – reolwr y papur a Fergus Shanahan cyn olygydd y papur yw’r newyddiadurwyr gafodd eu harestio.
Mae News Corporation wedi cyhoeddi datganiad sy’n dweud eu bod wedi ymrwymo’r haf diwethaf i beidio ail adrodd arferion annerbyniol o gasglu newyddion gan rai unigolion.
Mae 14 o bobl wedi cael eu arestio fel rhan o Weithrediad Elvenden erbyn hyn. Mae’r Gweithrediad yn cael ei arolygu gan Gomisiwn Cwynion yr Heddlu ac yn rhedeg ochr yn ochr a Gweithrediad Weeting i hacio ffonau.