Mae Cadeirydd Banc Brenhinol yr Alban (RBS) wedi dweud wrth bwyllgor tâl y banc nad yw am dderbyn 5.17 miliwn o gyfranddaliadau fel gwobr am ei waith eleni.

Yn ôl y BBC mae Syr Philip Hampton yn credu y buasai derbyn y cyfranddaliadau sy’n werth odeutu £1.4m yn ‘amrhiodol’.

Yn y cyfamser mae’r pwysau ar bennaeth y banc, Stephen Hester, i beidio derbyn na chael bonws o £963,000 yn cynyddu.

Mae arweinydd yr wrthblaid, Ed Milliband, wedi annog gweinidogion i atal rhoi’r bonws iddo gan mai y trethdalwyr sydd biau’r rhan fywaf o gyfranddaliadau RBS.

Mae’r Canghellor, George Osbourne beth bynnag wedi gwrthod gwneud hyn trwy bleidleisio yn erbyn rhoi’r bonws yng nghyfarfod cyffredinol y banc mis Ebrill nesaf.

Dywedodd y Canghellor y buasai hyn yn ddeunydd anghyfrifol o’r 82% o gyfranddaliadau sydd gan y llywodraeth yn union fel y buasai wedi bod yn anghyfrifol i ymyrryd yn y broses o bennu maint y bonws yn y lle cyntaf.

Mae Maer Llundain, y Ceidwadwr Boris Johnson hefyd wedi annog y Prif Weinidog i ymyrryd yn yr hyn sydd ar y gweill.

Ar y llaw arall mae sawl aelod blaenllaw o’r Ddinas a nifer o bobl busnes wedi dweud bod Mr Hester yn llwyr haeddu ei fonws am ei waith. Mae’r bonws yn ôl rhai, yn rhan o hawliau Stephen Hester ac y buasai cael dyfarniad bonws o ddim byd yn sarhad o’r mwyaf arno gan y buasai’n cael ei ddehongli fel arwydd cyhoeddus ei fod wedi methu wrth ei waith.