Alex Salmond
Bydd yr Alban yn cael dewis “clir” ac “uniongyrchol” i’w wneud wrth bleidleisio ar annibyniaeth, yn ôl Prif Weinidog yr Alban.

Fe lansiodd Alex Salmond bapur ymgynghori’r Llywodraeth ar y refferendwm y prynhawn yma mewn  datganiad yn Holyrood.

Dywedodd y Prif Weinidog wrth Aelodau Seneddol yr Alban fod y papur ymgynghorol yn gosod y cwestiwn y mae Llywodraeth Plaid Genedlaethol yr Alban, yr SNP, yn ei roi i bleidleiswyr, sef: ‘A ydych chi’n cytuno y dylai’r Alban fod yn wlad annibynnol?’

Dywedodd Alex Salmond wrth y Senedd mai hwn fyddai’r “penderfyniad pwysicaf i bobol yr Alban mewn 300 mlynedd.”

Ac oherwydd hynny, dywedodd y byddai gofyn i’r bleidlais gyrraedd “y safonau uchaf o degwch, tryloywder, a chywirdeb.”

Dywedodd Alex Salmond y byddai’r Comisiwn Etholiadol yn cael eu penodi i gynnal y refferendwm.

Ymestyn oed pleidleisio

Wrth drafod gweledigaeth Llywodraeth yr SNP ar gyfer y refferendwm heddiw, dywedodd Alex Salmond y byddai hawl peidleisio yn cael ei benderfynu ar sail ble mae person yn byw.

“Y bobol sy’n byw ac yn gweithio yn yr Alban yw’r rhai sydd yn y lle gorau i benderfynu ar ei dyfodol,” meddai’r Prif Weinidog, gan ddweud fod y Llywodraeth yn ystyried gostwng yr oed pleidleisio yn y refferendwm i 16 oed.

“Dyw hi ond yn iawn bod ein pobol ifanc ni yn cael y cyfle i chwarae eu rhan yn y penderfyniadau ynglyn â’u cymunedau a’u gwlad,” meddai.

“Os gall pobol 16 oed yn yr Alban gofrestru er mwyn ymuno â’r fyddin, priodi, a thalu trethi, os bosib y dylai ef neu hi gael llais yn nyfodol cyfansoddiadol y wlad?

“Yn ein ymgynghoriad heddiw, felly, fe fyddwn ni’n gofyn am farn pobol am ymestyn oed pleidleisio yn y refferendwm i bobol 16 ac 17 oed.”

Trafod y rhaniad

Wrth drafod gweledigaeth yr SNP ar gyfer y rhaniad rhwng yr Alban a gweddill Prydain, dywedodd Alex Salmond y byddai’n dymuno gweld yr Alban yn cadw’r Frenhiniaeth gyda gweddill Prydain.

Ond dywedodd na fyddai arfau niwclear yn cael eu cadw ar dir yr Alban, ac na fyddai milwyr yr Alban yn cymryd rhan mewn “rhyfeloedd anghyfreithlon fel Irac.”

Wrth drafod sefyllfa’r Deyrnas Unedig mewn sefyllfa wedi i’r Alban gael annibyniaeth, dywedodd y byddai’r Alban yn “ail-ymuno â’r Undeb fel partner cyfartal”.

“Mae annibyniaeth, a rhyng-ddibyniaeth, yn rhan o’r un broses,” meddai.

Mae Llywodraeth yr SNP yng Nghaeredin eisoes wedi dweud mai hydref 2014 yw’r dyddiad y maen nhw’n dymuno cynnal y refferendwm.

Mae Llwyodreth y DU wedi galw am gynnal y bleidlais yn gynt, yn hytrach na hwyrach.

Ond mynnodd Alex Salmond heddiw mai hydref 2014 oedd y “dyddiad cynharaf posib i gynnal refferendwm sy’n cyrraedd y safonau uchaf y mae pobol y wlad yma’n iawn i’w ddisgwyl.”