Senedd yr Alban
Mae Prif Weinidog yr Alban yn paratoi i lansio trafodaeth genedlaethol ar annibyniaeth i’r wlad yn Holyrood heddiw.

Y prynhawn yma, fe fydd arweinydd yr SNP a Phrif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, yn amlinellu ei gynlluniau ar gyfer cynnal refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban, ac yn lansio ymgynghoriad cenedlaethol i drafod y mater.

Neithiwr, dywedodd Alex Salmond y byddai’r ymgynghoriad yn cynnwys “holl bleidiau gwleidyddol yr Alban, ond yn allweddol… y sefydliadau a’r cymunedau sy’n creu gwead cymdeithasol teyrnas yr Alban.”

Wrth annerch cynulleidfa Darlith Flynyddol Hugo Young neithiwr, dywedodd Alex Salmond y byddai’r papur ymgynghorol yn “annog trafodaeth ar y mater” ar draws yr Alban.

Dywedodd ei fod yn credu’n gryf y byddai modd ennill annibyniaeth i’r Alban ar sail refferendwm Ie/Na, ond dywedodd fod yn rhaid gwrando ar bobol yr Alban wrth lunio cwestiwn y refferendwm.

“Dwi’n cydnabod bod ’na ganran sylweddol o’r wlad fyddai efallai eisiau ystyried dewis arall i’r Alban, sy’n gorwedd rhwng y status quo ac annibyniaeth llwyr,” meddai.

Dywedodd hefyd nad oedd yn croesawu ymyrraeth Llywodraeth y DU yn ceisio gorfodi amserlen tynn ar y refferendwm, a gorfodi cwestiwn Ie/Na uniongyrchol ar y refferendwm.

‘Yr hawl i ddewis ein dyfodol’

Dywedodd Alex Salmond neithiwr mai Llywodraeth yr Alban ddylai fod yn llunio amodau ac amserlen y refferendwm, ac y byddai “deddfwriaeth o San Steffan sy’n gorchymyn yn hytrach na galluogi yn annerbyniol i Lywodraeth yr Alban. Byddai’n mynd yn groes i hawliau pobol yr Alban.”

Mynodd y Prif Weinidog fod pobol yr Alban wedi rhoi’r mandad iddyn nhw gynnal refferendwm ar annibyniaeth i’r wlad ar ôl iddyn nhw eu hethol i’r Llywodraeth ar faniffesto oedd yn rhoi annibyniaeth ar frig yr agenda.

“Cafodd yr ymrwymiadau hyn eu cymeradwyo gan fwyafrif llethol bobol yr Alban, a dwi’n ystyried fy hun wedi fy rhwymo iddyn nhw.”

Mae’r SNP yn unfrydol o blaid annibyniaeth i’r Alban, ac eisiau cynnal y refferendwm yn 2014.

“Dwi’n credu mai annibyniaeth yw’r sefyllfa mwyaf naturiol i genedl fel yr Alban,” meddai Alex Salmond heddiw, ac fe fydd yn cyhoeddi ei weledigaeth am y refferendwm hwnnw y prynhawn yma.