George Osborne
Mae disgwyl i ffigurau sy’n cael eu cyhoeddi heddiw ddangos bod yr economi wedi crebachu yn chwarter olaf 2011.
Mae economegwyr yn darogan y bydd ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos gostyngiad o 0.1% mewn Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP), o’i gymharu a chynnydd o 0.6% yn y chwarter blaenorol.
Cynyddu mae’r pryderon bod dirwasgiad arall ar y gorwel.
Mae’n debyg mai gostyngiad mewn gwariant siopwyr wrth i gyflogau gael eu cadw islaw graddfa chwyddiant sy’n cael y bai.
Ddoe, fe gyhoeddwyd bod dyledion Prydain wedi cyrraedd £1 triliwn am y tro cyntaf erioed ac mae’r Gronfa Ariannol Ryngwladol wedi rhybuddio’r Canghellor George Osborne ei fod yn gwneud gormod o doriadau yn rhy gyflym.