Gordon Brown
Mae golygydd papur y Sunday Times wedi cyfadde’ bod newyddiadurwyr wedi esgus bod yn Gordon Brown er mwyn cael gwybodaeth am ei faterion ariannol.

Pan oedd y gwleidydd yn Ganghellor y Trysorlys, roedd y papur wedi cysylltu gyda chymdeithas adeiladu’r Abbey National er mwyn cael gwybodaeth am ei forgais.

Fe ddywedodd y golygydd, John Witherow, wrth ymchwiliad Leveson i’r wasg bod rhywun yn gweithio i’r papur wedi dynwared Gordon Brown er mwyn ceisio cael yr wybodaeth.

Mae’r papur yn dadlau nad oedden nhw’n torri’r gyfraith oherwydd bod eu hymchwiliad er budd y cyhoedd – roedden nhw’n amau bod y Canghellor wedi cael tŷ am bris rhatach nag a ddylai gan y teicŵn anonest Robert Maxwell.