Mae  23 o bobl wedi cael eu cludo i’r ysbyty ar ôl i gemegion ollwng mewn warws yn West Lothian.

Fe ddigwyddodd y ddamwain yn warws Palletways yn Livingston toc wedi 8am heddiw.

Credir mai’r cemegyn denatonium benzoate, sy’n cael ei ddefnyddio mewn sebonau a shampŵ, oedd wedi gollwng.

Yn ôl y gwasanaethau tân ac achub, cafodd 23 o bobl eu cludo i ysbyty St John’s yn Livingston yn dioddef o ddiffyg anadl a dolur gwddf. Mae’n debyg mai gweithwyr yn y warws yw’r rhan fwyaf.

Mae’n debyg bod y cemegyn wedi gollwng wrth gael ei symud i wagen godi.

Roedd mwy na 20 o ddiffoddwyr tân wedi eu galw i’r digwyddiad, ac wedi symud pawb o’r adeilad cyn dechrau clirio’r cemegyn.