Mae pedwar brawd a chwaer wedi marw mewn tân yn eu cartref ar ôl dathlu pen-blwydd eu mam.

Fe fu farw Reece Smith, 19, Holly ac Ella Smith, gefeilliaid pedair blwydd oed, a Jordan Smith, oedd yn ddwy, yn dilyn y tân yn eu byngalo ar Stryd Lytham, Freckleton, Swydd Gaerhirfryn.

Dechreuodd y tân am 11.30pm ddydd Sadwrn.

Aethpwyd a’r pedwar dioddefwr i Ysbyty Brenhinol Preston ond cyhoeddwyd yn ddiweddarach fod pub un wedi marw.

Tywyswyd eu mam Michelle Smith, 36, sydd â phum plentyn arall, allan o’r tŷ gan ddiffoddwyr tân yn ddianaf.

Dywedodd ei thad, Keith Smith, 56, fod Michelle Smith yn aros â pherthnasau yn yr ardal.

Ychwanegodd ei fod wedi clywed am y tân ar y newyddion. “Roedd yn sioc, mae’r amgylchiadau yn erchyll,” meddai.

“Dydw i ddim yn gwybod beth ddigwyddodd neithiwr. Maen nhw wedi byw yno ers dwy flynedd a hanner. Dyna oedd cartref eu mam-gu cyn hyn.

“Dydw i ddim wedi cael cyfle i siarad â Michelle eto. Mae’n ofnadwy. Roeddwn i wedi eu gweld nhw i gyd ar ôl y Nadolig.

“Alla’i ddim meddwl am unrhyw reswm pam fyddai hyn wedi digwydd, Mae’n sioc ofnadwy.”

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Swydd Gaerhirfryn eu bod nhw’n ceisio darganfod beth achosodd y tân ac yn cadw “meddwl agored”.