Mae nyrs 46 oed wedi cael ei arestio fel rhan o ymchwiliad yr heddlu i achosion o wenwyno cleifion yn Ysbyty Stepping Hill yn Stockport.

Daw hyn ar ôl i’r heddlu ddweud eu bod yn ymchwilio i farwolaeth dyn 82 oed ar Nos Galan am fod rhywun wedi ymyrryd a’i feddyginiaeth.

Mae’r heddlu bellach yn ymchwilio i bedwar marwolaeth.

Cafodd y nyrs ei arestio yn ei gartref yn Stockport heddiw ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa ar amheuaeth o roi sylwedd gwenwynig yn anghyfreithlon, ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod cofnodion meddygol wedi cael eu newid ddydd Llun.

Mae’n debyg nad ydy’r digwyddiad diweddara yn rhan o’r un ymchwiliad i achosion o ymyrryd a  meddyginiaethau ym mis Mehefin a Gorffennaf y llynedd, gan nad oes cysylltiad rhwng y ddau ar hyn o bryd.

Ond roedd y nyrs gafodd ei arestio heddiw yn gweithio ar y wardiau hynny pan gafodd y cleifion eu gwenwyno yn yr haf y llynedd.

Roedd y pedwar fu farw yn cael gofal mewn  wardiau ar gyfer cleifion sy’n ddifrifol wael.

Mae’r heddlu’n credu bod 20 o gleifion wedi cael eu gwenwyno’n fwriadol ac mae’r ymchwiliad yn parhau.