Gary Dobson a David Norris
Fe fydd y  ddau ddyn gafwyd yn euog o lofruddio Stephen Lawrence yn cael eu dedfrydu heddiw.

Yn yr Old Bailey ddoe, cafwyd Gary Dobson, 36 a David Norris, 35, yn euog o lofruddio’r myfyryiwr bron i 19 mlynedd yn ôl.

Cafodd Stephen Lawrence ei drywannu mewn ymosodiad hiliol gan grŵp o lanciau croenwyn yn Eltham, de ddwyrain Llundain yn Ebrill 1993.

Gan fod Dobson a Norris yn 17 ac 16 oed pan gafodd Stephen Lawrence ei ladd, fe all eu dedfrydau fod yn llai na fyddai oedolyn yn ei gael. Ond fe fydd Mr Ustus Treacy yn cymryd i ystyriaeth y ffaith fod y llofruddiaeth yn un hiliol a bod y ddau yn ymwybodol bod un ymhlith y grŵp â chyllell ac y gallen nhw ei defnyddio.

Yn dilyn y dyfarniad ddoe, dywedodd rhieni Stephen Lawrence eu bod yn teimlo rhyddhad, ond dywedodd ei fam, Doreen Lawrence, nad oedd yn ddiwrnod i ddathlu.

Wrth siarad tu allan i’r Old Bailey ddoe dywedodd: “Er gwaetha’r dyfarniadau, dydy heddiw ddim yn achos i ddathlu. Sut alla’i ddathlu pan mae fy mab yn gorwedd mewn bedd, pan na alla’i ei weld na siarad gydag o?

“Ni fydd y dedfrydau yma yn dod â fy mab yn ôl.

“Sut alla’i ddathlu pan rydw i’n gwybod y gallai’r diwrnod yma fod wedi dod 18 mlynedd yn ôl, petai’r heddlu heb fethu mor  druenus i ddod o hyd i’r rhai a laddodd fy mab?”

Mewn datganiad, dywedodd Neville Lawrence ei fod yn teimlo “llawenydd a rhyddhad” bod llofruddwyr ei fab wedi eu cael yn euog.

Cefndir

Roedd Dobson a Norris ymhlith pump o ddynion gafodd eu harestio gan yr Heddlu Metropolitan adeg y llofruddiaeth. Roedd y ddau frawd, Neil a Jamie Acourt a’u ffrind Luke Knight ymhlith y rhai eraill.

Ond, bryd hynny, doedd dim digon o dystiolaeth i’w cyhuddo.

Roedd teulu Stephen Lawrence wedi dwyn achos preifat yn erbyn y pump. Ond er bod achos yn erbyn tri ohonyn nhw – gan gynnwys Dobson – wedi mynd i’r llys, roedd yr achos wedi dymchwel.

Cafodd yr Heddlu Metropolitan eu beirniadu’n hallt mewn ymchwiliad cyhoeddus am y ffordd roedden nhw wedi delio â’r achos. Roedd Adroddiad Macpherson ym 1998 wedi cyhuddo’r Met o “hiliaeth gyfundrefnol”.

Cafodd achos newydd yn erbyn Dobson a Norris ei lansio yn dilyn adolygiad fforensig a ddechreuodd yn 2006.