Archesgob Caergaint
Mae Archesgob Caergaint, Rowan Williams wedi dweud y bod yna “arferiad cenedlaethol o fod yn amheus a gelyniaethus tuag at bobl ifanc”.

Mae’r delweddau o bobl ifanc yn dwyn o siopau ac yn herio’r heddlu yn ystod terfysgoedd llynedd yn bwydo’r arferiad meddai.

“Rydyn ni’n elyniaethus ac amheus pan rydyn ni yn gweld criwiau o bobl ifanc ar gorneli stryd neu y tu allan i siopau ac arosfannau bysus. Mi fyddwn ni’n cerdded rhyw fymryn yn gyflymach gan obeithio y gallwn fynd heibio heb unrhyw drafferth,” meddai.

Yn ei neges ar gyfer y flwyddyn newydd dywedodd mai lleiafrif achosodd y terfysgoedd yn ninasoedd Lloegr yn ystod yr haf ac ychwanegodd bod y rhan fwyaf o bobl ifanc yn rhannu’r un teimladau o siom am ymddygiad y terfysgwyr.

Dywedodd bod y gwaith elusennol gaiff ei wneud efo pobl ifanc yn profi bod ganddyn nhw gyfraniad pendant i gymdeithas pan mae nhw yn teimlo yn ddiogel a chael eu caru, gan ganmol elusennau fel Cymdeithas y Plant am eu gwaith.

“Buasai addunedu i roi help llaw yn lleol er mwyn cefnogi gweithgareddau i bobl ifanc, cefnogi cyfleoedd i gael cwnsela a dysgu a mwynhad mewn awyrgylch diogel yn syniad da iawn ar gyfer y flwyddyn newydd’” ychwanegodd.