Mae’r Ysgrifennydd Amaethyddol, Jim Paice, wedi honni nad yw’r Ddeddf Hela “wedi gweithio”.
Daw ei sylwadau wrth i gannoedd baratoi i hela llwynogod rhwng y Nadolig a’r flwyddyn newydd.
Dywedodd Jim Paice ei fod o blaid hela gyda chŵn wrth ymweld â Parc Milton yn Peterborough cyn helfa blynyddol Gŵyl San Steffan.
Cytunodd y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol i gynnal pleidlais ynglŷn â diddymu y gwaharddiad ar hela wrth ffurfio llywodraeth glymblaid San Steffan.
Mae’r Gymdeithas Cefn Gwlad yn rhagweld y bydd 250,000 o bobol yn cwrdd heddiw er mwyn cynnal 300 helfa ledled Ynysoedd Prydain.
“Yn syml iawn, dyw’r ddeddf ddim wedi gweithio,” meddai Jim Paice. “Rydw i’n bersonol o blaid hela gyda chŵn a chynnal pleidlais ar ddiddymu’r ddeddf os oes amser i wneud hynny.”
Dywedodd Prif Weithredwr y Gymdeithas Cefn Gwlad, Alice Barnard, fod hela wedi parhau er gwaetha’r gwaharddiad.
“Mae’n fater o falchder mewn cymunedau cefn gwlad nad yw hela wedi ei effeithio gan ragfarn ac anwybodaeth rhai pobol,” meddai.
“Mae ymweliad y gweinidog yn dangos cefnogaeth y llywodraeth ac rydyn ni’n ei groesawu.”
Dywedodd llefarydd yr wrthblaid ar faterion gwledig, Mary Creagh, nad oes yna “unrhyw le i greulondeb tuag at anifeiliaid mewn cymdeithas wâr”.
“Mae pobol yn pryderu am golli incwm, a cholli swyddi, ond mae’r llywodraeth yma eisiau dod a hela yn ôl!
“Yr unig reswm dydyn nhw ddim wedi cynnal pleidlais ydi eu bod nhw’n gwybod y byddai yn methu.”